Gyriant pedair olwyn

4x4 cynnar
4x4 cynnar gan y cwmni Rwsiaidd GAZ; 1938
Ferrari FF (4x4); 2011–2016
Ferrari FF (4x4); 2011–2016
Ceir cludo teithwyr; gyriant 4-olwyn.

Math o system gyriant i gerbydau yw gyriant pedair olwyn, 4×4 ("pedair wrth bedair"), a 4WD ble mae pob un o'r pedair olwyn yn cael eu pweru. Gall y gyriant fod yn barhaol neu yn ôl yr angen; weithiau mae'r pwer yn troi'r ddwy echel yn hytrach na'r olwynion a gelwir y math hwn yn "all-wheel drive" (AWD). Ond mae "gyriant pedair olwyn" yn cyfeirio at gydrannau arbennig a phwrpas y cerbyd (offroader yn aml).

Datblygwyd systemau 4×4/4WD/AWD mewn gwledydd gwahanol ar gyfer cerbydau gwahanol ac nid oes un safon rhyngwladol nag un diffiniad absoliwt o'r gair.[1] Mae'r amrywiaethau felly o'r defnydd a roddir i'r term, yn cael ei lywio gan y farchnad - y prynnwr potensial - yn hytrach na pheirianneg a thechnoleg.[2][3]

4x4 cynnar
Willys MB (neu'r 'Jeep'); 1941
Range Rover Evoque
Range Rover Evoque SD4 4WD Prestige; 2011
Offroaders gyriant 4-olwyn.

Yn ogystal â gyriant 4-olwyn, ceir gyriant dwy olwyn; y dewis yma yw: 'gyriant blaen' neu 'gyriant ôl'. Wrth i geir trydan ddatblygu, yn enwedig rhai 'Llwyr Drydan' (EV) ceir system gyrru pob olwyn yn annibynnol o'i gilydd, gyda modur ar bob olwyn yn hytrach nag un injan mawr.

  1. Mohan, Sankar (12 Mehefin 2000). "All - Wheel Drive / Four - Wheel Drive Systems and Strategies". Seoul 2000 FISITA World Automotive Congres. http://210.101.116.115/fisita/pdf/A014.pdf. Adalwyd 2016-12-29.
  2. Andreev, Alexandr F.; Kabanau, Viachaslau; Vantsevich, Vladimir (2010). Driveline Systems of Ground Vehicles: Theory and Design. CRC Press. t. 34.
  3. Dykes, Alex. "Alphabet Soup: 4×4 vs 4WD vs AWD Where's the Differential?". thetruthaboutcars.com. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2015.[dolen farw]

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy